Myhefin 2022

Myhefin 2022

Bu mis Mehefin yn golygu dau ddigwyddiad i redwyr Clwb Sarn Helen ers tro, sef Ras Ffordd 6 Milltir Felinfach a Ras Gyfnewid Cestyll Cymru, a chynhaliwyd y ddau ddigwyddiad yn llwyddiannus unwaith eto eleni.


Cynhelir Ras Felinfach ar y nos Wener olaf yn y mis i gefnogi’r ysgol gynradd ac er nad oedd y tywydd yn hafaidd ar noson y 24ain eleni daeth 69 i redeg y ras i oedolion a drefnwyd unwaith eto gan Lywydd y clwb, Lyn Rees. Owain Schiavone o Glwb Athletau Aberystwyth ddaeth yn 1af mewn 32 munud a 41 eiliad gyda Steffan Walker (33:34) -  un o 34 aelod o Glwb Sarn Helen yn y ras  - yn ail o drwch blewyn o flaen Phil Morris o glwb Llanfair Ym Muallt. Ei gymar Donna Morris o’r un clwb oedd y fenyw gyntaf gan orffen yn 5ed yn y ras mewn amser ardderchog (34:34.) Yn anochel aeth rhan helaeth o’r gwobrau i Sarn Helen gyda Daniel Jones (35:31) yn 3ydd o’r dynion dan 40, Simon Hall (36:01) yn 3ydd o’r dynion dros 40, Meic Davies (36:27) yn 1af o’r dynion dros 50, Glyn Price (37:40) ac Arwyn Davies (39:06) yn ail a 3ydd yn y dosbarth hwnnw. Dee Jolly (40:23) oedd yr ail fenyw i orffen y ras ac yn ail yn nosbarth y menywod dros 35, gyda Lou Summers (41:24) yn ennill y dosbarth dros 45 ychydig o flaen Fabi Findlay (41:42) a ddaeth yn 3ydd yn y dosbarth dros 35, hithau’n cael ei chwrso gan Eleri Rivers (42:00) yr ail yn y dosbarth dros 45. Enillydd y dosbarth i fenywod dan 35 oedd Jasmine Jones (45:19) yn 16 oed ac yn rhedeg ei ras gyntaf yn y dosbarth. Nicola Williams (48:07) aeth a’r ail safle yn y dosbarth hwnnw. Sarn Helen oedd y tîm buddugol hefyd. Braf oedd gweld niferoedd da yn y rasys ieuenctid hefyd. Yn y ras 3000 metr daeth Harri Rivers (12:07) yn 3ydd tu ôl i’r enillydd Liam Regan o glwb Caerfyrddin a Sioned Kersey (13:36) a Mia Lloyd ((14:03) yn ail a 3ydd tu ôl i Leah Regan o glwb Caerfyrddin. Yn y ras 1500 metr daeth Ben Hall (6:52) yn 3ydd ac Elis Herrick (6:56) yn dynn ar ei sodlau. Enillydd y ras 800 metr oedd Gruff Hodgson o ysgol Ciliau Parc mewn amser cyflym iawn (3:45).


Cynhaliwyd Ras Gyfnewid Cestyll Cymru am y chweched tro ar hugain ar y 11eg a’r 12fed o Fehefin, ras o 209 milltir dros fryn a mynydd sy’n cynnwys 20 cymal (hynny yw 20 ras) yn cychwyn ger castell Caernarfon ar fore Sadwrn ac yn gorffen yng nghastell Caerdydd ar brynhawn dydd Sul. Yr oedd 55 o dimau o Gymru a Lloegr yn cystadlu eleni a bu timau Cymru’n fwy llwyddiannus nag arfer  wrth i glybiau Abertawe a Phontypridd ddod yn 1af ac ail. Dan arweinyddiaeth ei trefnydd Carwyn Davies (Pumsaint) gwnaeth clwb Sarn Helen yn arbennig o dda i orffen yn 24ain ac oni bai am fethiant trwy anffawd i gael eu cynrychiolydd i linell gychwyn un o’r cymalau byddai’r clwb wedi gorffen o fewn yr ugain cyntaf o dipyn. Cafwyd ymdrechion ardderchog gan bob un o’r rhedwyr ac amhosib cymharu’r gwahanol gymalau a’i gilydd ond efallai mai rhai o’r uchafbwyntiau oedd 7fed safle Johnathan Price o Foel i Lanfair Caereinion, 10fed safle Glyn Price o Lanbadarn Fynydd i’r Groes, 13eg safle Mark Rivers o’r Groes i Lanfair Ym Muallt a 15fed safle Steffan Walker o Lanfair Ym Muallt i fyny Epynt.


Nid rhain oedd yr unig ddigwyddiadau y bu aelodau’r clwb yn cystadlu ynddynt yn ystod y mis. Yn wir prif bwrpas y misoedd diwethaf i Glyn Price a Nigel Davies oedd paratoi ar gyfer Marathon Lwybr Cymru yng Nghoed y Brenin. Daeth Glyn (3:44:54) yn 26ain allan o 244 ac yn ail dros 50 gan arwain y dosbarth hyd y filltir olaf, gyda Nigel (3:49:53) yn 3ydd teilwng iawn.  Yn y ras hanner marathon yn yr un achlysur, daeth Caryl Davies (2:05:39) yn 7fed fenyw dan 35 gyda Steven Holmes (2:18:39) Jon Adams (2:26:55) a Jane Holmes (2:42:13) yn ei dilyn.


Ar y 12fed Delyth Crimes (1:48:23) oedd unig gynrychiolydd y clwb yn Hanner Marathon Abertawe.
Ar y 3ydd aeth nifer i gystadlu yn Her y Tri Pharc ym Mharc Dinefwr, ras aml-dirwedd dros 10 cilometr. Cafodd Simon Hall (40:57) hwyl arni gan ennill y dosbarth dynion dros 40 tra enillwyd y dosbarth dros 50 gan Meic Davies (42:44) gyda Mark Rivers (42:56) yn 3ydd. Daeth Eleri Rivers (50:14) yn ail yn nosbarth y menywod dros 45. Y canlyniadau eraill oedd: George Eadon (43:23), Steven Homles (46:45), Dee Jolly (46:55), Carwyn Davies (52:10),  Mitchell Readwin (53:28), Jane Holmes (62:11), Carol Evans (67:50) a Rebecca Doswell (68:01).


Taith Aled Morgan i dreiathlon yr “Escape From Alcatraz” yn San Francisco oedd yr un fwyaf hynod o’r mis neb os nac oni bai a do, fe lwyddodd Aled i nofio i’r lan o ynys y carcharorion cyn rhedeg a beicio o amgylch y ddinas.  Yn nes at gartref, bu Eric Rees hefyd yn cwblhau treiathlon ym Mharc Bryn Bach ar y 18fed gan lwyddo i ddod yn 4ydd yn nosbarth y dynion dros 50 mewn 8 awr 58 munud a 4 eiliad yn y 'DB Max Titan Brecon.' 


Ar nodyn trist gwelsom golli un o brif sylfaenwyr a chymwynaswyr y clwb, Robert George (Hag) Harris, yn ystod y mis. Mawr yw ein dyled iddo am ei ysbrydoliaeth, ei gystadlu a’i hyfforddi yn ystod degawd gyntaf y clwb a gwelir ei golli gan bawb gafodd y fraint o’i gael yn gyfaill.

{gallery layout="flow" lightbox_autostart=1}News/2022/Gorffennaf{/gallery}